WordPress: ategion a themâu yn Gymraeg
Oddi ar Hedyn
Mae system rheoli cynnwys WordPress ar gael yn Gymraeg: https://cy.wordpress.org
Dylai'r themâu ac ategion sydd 100% yn orffenedig yn Gymraeg ddiweddaru i'r fersiwn Cymraeg yn awtomatig wrth i chi ddiweddaru nhw.
Fel arall, os ydych chi eisiau rhedeg thema neu ategyn WordPress yn Gymraeg, mae angen canfod a gosod y cyfieithiad fel ffeil .mo.
Rydym yn ceisio casglu rhestr o'r themâu ac ategion sydd ar gael yn Gymraeg gyda dolenni i'r ffeil .mo a'r ffeil .po.
Y prif system
Mae modd lawrlwytho'r fersiwn diweddaraf o brif system WordPress o https://cy.wordpress.com
Ewch i https://cy.wordpress.com am y fersiwn hawdd am ddim.
Enw | Disgrifiad | Dolen | Allforio .mo a .po (neu weithio ar y cyfieithiad) |
---|---|---|---|
WordPress | Y prif system | https://cy.wordpress.org | https://translate.wordpress.org/locale/cy/default/wp/dev |
Ategion
Ewch i'r Cyfeiriadur Ategion i weld ategion o bob math: https://cy.wordpress.org/plugins
Dyma restr o ategion Cymraeg gorffenedig a'r rhai sydd bron yn orffenedig yn Gymraeg.
Themâu
Ewch i'r Cyfeiriadur Themau i weld themau gorffenedig: https://cy.wordpress.org/themes
Os ydych chi ar wordpress.com gallech chi ddefnyddio unrhyw thema orffenedig yn y rhestrau yma yn hawdd: chwiliwch am yr enw a dyna ni.
Cyfaddas
Dyma restr o themâu Cymraeg gorffenedig a'r rhai sydd bron yn orffenedig yn Gymraeg.
Rhagosedig
Fframweithiau
Dyma fframweithau ar gyfer themâu WordPress, i ddylunwyr yn bennaf. Byddan nhw yn gweithio ond yn ymddangos yn blaen os nad ydych chi'n ychwanegu'ch dyluniad.
Enw | Disgrifiad | Dolen | Allforio .mo a .po |
---|---|---|---|
HTML5Blank | Fframwaith ar gyfer themâu WordPress (i ddylunwyr yn bennaf) | http://html5blank.com/ | https://github.com/toddmotto/html5blank/tree/master/src/languages |
Underscores | Fframwaith ar gyfer themâu WordPress (i ddylunwyr yn bennaf) | http://underscores.me/ | https://github.com/ptbello/_slated/tree/master/languages |