Hygyrchedd

The WordPress community and the open source WordPress project is committed to being as inclusive and accessible as possible. We want users, regardless of device or ability, to be able to publish content and maintain a website or application built with WordPress.

Nod WordPress yw sicrhau bod y WordPress Admin a'r themâu wedi'u bwndelu yn cydymffurfio'n llawn â WCAG 2.0 AA lle bo hynny'n bosibl.

Rhaid i'r holl god newydd a diweddarwyd ac a ryddhawyd yn WordPress gydymffurfio â'r canllawiau hyn yn unol â WordPress Accessibility Coding Standards . Efallai na fydd rhai nodweddion cyfredol ac ymarferoldeb wrth ddatblygu yn cydymffurfio'n llawn eto, a rhestrir materion hysbys yng ffocws “hygyrchedd” WordPress Trac .

Er na all prosiect WordPress warantu bod yr holl Themâu yn cydymffurfio, mae'r Tîm Adolygu Thema wedi gwirio'r themâu sy'n barod ar gyfer hygyrchedd er mwyn sicrhau bod y themâu hyn yn cyd-fynd a'n gofynion hygyrchedd sylfaenol .

Y Tîm Hygyrchedd

Mae Tîm Hygyrchedd WordPress yn darparu arbenigedd hygyrchedd ar draws y project i wella hygyrchedd craidd ac adnoddau WordPress.

Mae'r Accessibility Handbook yn rhannu'r arferion gorau ar gyfer hygyrchedd gwe, rhestr o offer hygyrchedd, y profion a wnawn i wella WordPress, themâu, ac ategion, a sut i gymryd rhan yn hygyrchedd WordPress.

I adrodd am fater Hygyrchedd rydych wedi ei ganfod yn WordPress neu ar WordPress.org, gweler tudalen y Llawlyfr Hygyrchedd ar Reporting Accessibility Issues .

Datganiad ATAG

Mae'r Canllawiau Hygyrchedd Offer Awdurdodi fersiwn 2.0, neu ATAG, yn set o ganllawiau sy'n llywodraethu sut i greu teclyn ar gyfer creu tudalennau gwe sy'n hygyrch ac yn annog creu cynnwys hygyrch.

Mae safonau codio hygyrchedd WordPress yn gofyn am god newydd neu wedi'i ddiweddaru i fodloni safonau fersiwn 2.0 Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe (WCAG) ar lefel AA. Mae cydymffurfiad ATAG yn nod ychwanegol y tu hwnt i gydymffurfiad WCAG.

Rhaid i gais sy'n cydymffurfio'n llawn ag ATAG 2.0 nid yn unig gael ei ddefnyddio gan bobl ag anableddau, ond dylai alluogi ac annog pob defnyddiwr i greu cynnwys hygyrch a'u cynorthwyo i atgyweirio camgymeriadau hygyrchedd, heb fod angen unrhyw offer neu ychwanegion ychwanegol.

Ar hyn o bryd nid yw WordPress yn cydymffurfio ag ATAG 2.0, ond mae'n addo dilyn nodweddion sy'n hygyrch ac sy'n helpu defnyddwyr i greu cynnwys hygyrch wrth geisio cyflawni'r nod tymor hir o gydymffurfio ag ATAG.