Gutenberg

Disgrifiad

The block editor was introduced in core WordPress with version 5.0 but the Gutenberg project will ultimately impact the entire publishing experience including customization (the next focus area). This beta plugin allows you to test bleeding-edge features around editing and customization projects before they land in future WordPress releases.

Darganfod mwy am y prosiect .

Ffocws golygu

Bydd y golygydd yn creu profiad newydd o dudalen ac ôl-adeiladu sy’n gwneud ysgrifennu cofnodion cyfoethog yn hawdd, ac mae ganddi "flociau" i’w gwneud yn hawdd i wneud yr hyn y gallai ar hyn o bryd gymryd codau byr, HTML cyfaddas, neu ddarganfod mewnblannu "mystery meat". – Matt Mullenweg

Un peth sy’n gosod WordPress ar wahân i systemau eraill yw ei fod yn caniatáu i chi greu cynllun cofnod mor gyfoethog fel y gallwch chi ei ddychmygu – ond dim ond os ydych chi’n gyfarwydd â HTML a CSS ac yn adeiladu’ch thema cyfaddas eich hun. Drwy feddwl am y golygydd fel teclyn i’ch galluogi i ysgrifennu cofnodion cyfoethog a chreu gosodiadau hardd, gallwn drawsnewid WordPress i fod yn rhywbeth mae defnyddwyr wrth eu boddau gyda WordPress, yn hytrach na rhywbeth maen nhw’n ei ddewis oherwydd dyma mae pawb arall yn ei ddefnyddio.

Mae Gutenberg yn edrych ar y golygydd fel mwy na maes cynnwys, gan ail-edrych ar gynllun sydd heb ei newid yn sylfaenol ers bron i ddegawd. Mae hyn yn ein galluogi i ddylunio profiad golygu modern a datblygu sylfaen ar gyfer pethau i ddod.

Dyma pam yr ydym yn edrych ar y sgrin golygu gyfan, yn hytrach na dim ond y maes cynnwys:

  1. Mae’r bloc yn uno rhyngwynebau lluosog. Os byddwn yn ychwanegu hynny ar ben y rhyngwyneb presennol, byddai’n ychwanegu cymhlethdod, yn hytrach na’i ddileu.
  2. Drwy ail-edrych ar y rhyngwyneb, gallwn foderneiddio’r profiad ysgrifennu, golygu a chyhoeddi, gyda defnyddioldeb a symlrwydd mewn golwg, sy’n fanteisiol ar gyfer defnyddwyr newydd ac achlysurol.
  3. Pan fydd rhyngwyneb bloc unigol yn cymryd rhan ganolog, mae’n cynnig llwybr clir i ddatblygwyr greu blociau premiwm, sy’n well na codau byr a theclynnau.
  4. Mae ystyried y rhyngwyneb cyfan yn gosod sylfaen gadarn ar gyfer y ffocws nesaf sef, cyfaddasu gwefannau llawn.
  5. Mae edrych ar y sgrîn golygydd lawn hefyd yn rhoi’r cyfle i ni foderneiddio’r sylfaen yn sylweddol, a chymryd camau tuag at ddyfodol mwy hylifol a grym JavaScript sy’n cymryd mantais llawn o API REST WordPress.

Blociau

Blociau yw esblygiad unedig yr hyn sydd bellach yn cael ei gwmpasu, mewn ffyrdd gwahanol, gan godau byr, mewnblaniadau, teclynnau, fformatau cofnodion, mathau cofnod cyfaddas, opsiynau themâu, meta-flychau, ac elfennau fformatio eraill. Maen nhw’n cynnwys ehangder y swyddogaethau galluoedd WordPress, gydag eglurder profiad cyson y defnyddiwr.

Dychmygwch floc "cyflogai" y byddai cleient y gallu ei lusgo i dudalen Amdanom i arddangos yn awtomatig llun, enw a bio. Bydysawd gyfan o ategion sydd i gyd yn ymestyn WordPress yn yr un ffordd. Dewislenni a gwefannau symlach. Defnyddwyr sy’n gallu deall a defnyddio WordPress yn syth – a 90% o ategion. Bydd hyn yn eich galluogi i gyfansoddi cofnodion hardd fel yr enghraifft hon yn hawdd.

Edrychwch ar y Cwestiynau Cyffredin am atebion i’r cwestiynau mwyaf cyffredin am y prosiect.

Cydweddiad

Mae’r cofnodion yn ôl-gydnaws, a bydd codau byr yn dal i weithio. Rydym yn edrych yn barhaus ar sut y gellir cynnwys metabocsau sydd wedi’u teilwra’n fawr, ac rydym yn edrych ar atebion sy’n amrywio o ategyn i analluogi Gutenberg i ganfod yn awtomatig a ddylid llwytho Gutenberg ai peidio. Er ein bod am sicrhau bod y profiad golygu newydd o ysgrifennu i gyhoeddi yn hawdd ei ddefnyddio, rydym wedi ymrwymo i ddod o hyd i ateb da ar gyfer gwefannau presennol sydd wedi’u teilwra’n arbennig.

Camau Gutenberg

Mae gan Gutenberg dri cham cynllunio. Mae’r cyntaf, sydd wedi’i anelu at gynnwys WordPress 5.0, yn canolbwyntio ar brofiad golygu cofnod a chyflwyno blociau. Mae’r cam cychwynnol hwn yn canolbwyntio ar ddull cynnwys yn gyntaf. Mae’r defnydd o flociau, fel y manylir uchod, yn caniatáu i chi ganolbwyntio ar sut y bydd eich cynnwys yn edrych heb dynnu sylw at opsiynau ffurfweddiad eraill. Bydd hyn yn y pen draw yn helpu pob defnyddiwr i gyflwyno eu cynnwys mewn ffordd sy’n ddifyr, uniongyrchol a gweledol.

Bydd yr elfennau sefydliadol hyn yn paratoi’r ffordd ar gyfer cam dau a thri, a gynlluniwyd ar gyfer y flwyddyn nesaf, i fynd y tu hwnt i’r cofnod i mewn i dempledi tudalen ac yn y pen draw, cyfaddasu gwefannau llawn.

Mae Gutenberg yn newid mawr, a bydd ffyrdd o sicrhau bod y swyddogaeth bresennol (fel codau byr a meta-blychau) yn parhau i weithio wrth ganiatáu i ddatblygwyr yr amser a’r llwybrau i drosglwyddo’n effeithiol. Yn y pen draw, bydd yn agor cyfleoedd newydd ar gyfer datblygwyr ategion a thema i wasanaethu defnyddwyr yn well trwy brofiad mwy deniadol a gweledol sy’n manteisio ar set o offer sy’n cael eu cefnogi an y craidd.

Cyfranwyr

Adeiladwyd Gutenberg gan lawer o gyfranwyr a gwirfoddolwyr. Mae’r rhestr lawn yn CONTRIBUTORS.md .

Blocks

This plugin provides 19 blocks.

core/site-title
Gutenberg
core/post-title
Gutenberg
core/block
Gutenberg
core/calendar
Gutenberg
core/tag-cloud
Gutenberg
core/post-date
Gutenberg
core/rss
Gutenberg
core/legacy-widget
Gutenberg
core/social-link-
Gutenberg
core/categories
Gutenberg
core/post-content
Gutenberg
core/latest-comments
Gutenberg
core/archives
Gutenberg
core/post-excerpt
Gutenberg
core/navigation
Gutenberg
core/latest-posts
Gutenberg
core/search
Gutenberg
core/template-part
Gutenberg
core/post-author
Gutenberg

Cwestiynau Cyffredin

Sut fedra i anfon adborth neu gael help gyda gwall?

Byddem wrth ein bodd yn clywed eich adroddiadau gwallau, awgrymiadau am nodwedd ac unrhyw adborth arall! Dewch draw i dudalen materion GitHub i chwilio am faterion sy’n bodoli eisoes neu agor un newydd. Er y byddwn yn ceisio treialu materion a adroddir yma ar y fforwm ategyn, fe gewch ymateb cyflymach (a lleihau dyblygu ymdrech) trwy gadw popeth yn ganolog yn y storfa GitHub.

Sut fedra i gyfrannu?

Rydym yn galw’r golygydd prosiect hwn "Gutenberg" oherwydd ei fod yn broject mawr. Rydyn ni’n gweithio arno bob dydd yn GitHub, a byddem wrth ein bodd yn cael eich help i’w adeiladu. Mae croeso i chi hefyd roi adborth, yr hawsaf fyddai ymuno â ni yn ein sianel Slack , #core-editor .

Gweler hefyd CONTRIBUTING.md .

Lle ga i ddarllen rhagor am Gutenberg?

Adolygiadau

BAD

Chwefror 11, 2020
I say this with sadness. The old system is better.
Chwefror 10, 2020
Well worth the effort of learning (ES6, for instance). It took me some time, but I love the different options to make the editor suitable for design-specific requirements of the websites I work on.
Chwefror 8, 2020
Maybe this editor not perfect but it's definitely move to the correct way. Thank you!
Chwefror 7, 2020
So poorly scabbed on it made me stop developing with WordPress.
Chwefror 6, 2020
Оставляйте классический редактор, Гутенберг - это провал.
Read all 3,023 reviews

Contributors & Developers

“Gutenberg” is open source software. The following people have contributed to this plugin.

Cyfranwyr

“Gutenberg” has been translated into 46 locales. Thank you to the translators for their contributions.

Translate “Gutenberg” into your language.

Interested in development?

Browse the code, check out the SVN repository, or subscribe to the development log by RSS.

Cofnod Newid

To read the changelog for Gutenberg 7.4.0, please navigate to the release page.