Mae’r fersiwn diweddaraf o WordPress wedi ei ryddhau. Cofiwch ddiweddaru!
Mae’n cynnwys diweddariadau diogelwch yn ogystal â nodweddion newydd.
Diolch i Rhoslyn Prys, Carl Morris, Iwan Stanley a Gruffudd Prys.
Dyma sy’n newydd:
Gwelliannau Golygu
Dolennu Mewnlin
Canolbwyntiwch ar eich ysgrifennu gyda rhyngwyneb fydd yn tarfu llai a sy’n caniatáu i chi gysylltu’n haws â’ch cynnwys.
Fformatio Llwybrau Byr
Ydych chi’n mwynhau defnyddio llwybrau byr fformatio ar gyfer rhestrau a phenawdau? Mae nhw nawr yn fwy defnyddiol byth, gyda llinellau llorweddol a <code>
.
Gwelliannau Cyfaddasu
Rhagolwg Byw Ymatebol
Bydd eich gwefan yn edrych yn dda ar bob sgrin! Gallwch weld rhagolwg yn syth ar eich dyfais symudol, tabled a bwrdd gwaith drwy’r cyfaddaswr.
Logos Penodol
Mae themâu nawr yn gallu cynnal logos ar gyfer eich busnes neu frand. Mae themâu Twenty Fifteen a Twenty Sixteen wedi eu diweddaru i gynnal logos penodol, sydd i’w gweld yn adran Hunaniaeth Gwefan y cyfaddaswr.
O Dan y Clawr
Adnewyddu Dewisol
Mae’r cyfaddaswr nawr yn cynnal fframwaith cynhwysfawr ar gyfer cyflwyno rhannau o’r rhagolwg heb ailysgrifennu eich cod PHP yn JavaScript. Gallwch ei weld ar waith gyda Dewislenni.
Newid Maint Delwedd Clyfar
Mae delweddau mawr yn llwytho hyd at 50% yn gynt gyda dim colled mewn ansawdd. Mae’n edrych yn dda.
Diweddariadau Llyfrgell JavaScript
Mae jQuery 1.12.3, jQuery Migrate 1.4.0, Backbone 1.2.3, ac Underscore 1.8.3 wedi eu cynnwys.
Gwelliannau i’r Llwythwr Sgriptiau
Mae gwell cefnogaeth wedi ei ychwanegu ar gyfer sgriptiau dibyniaethau pennyn/troedyn. Mae’r wp_add_inline_script()
newydd yn caniatáu ychwanegu cod ychwanegol i sgriptiau cofrestredig.